P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan cyngorydd Arfon Jones ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Medi 2015, ar ôl casglu 1,254 llofnod ar lein a 293 llofnod bapur.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i
ddiwygio CYFARWYDDYD CYNLLUNIO GWLAD A THREF (HYSBYSU) (OLEW A NWY
ANGHONFENSIYNOL) (CYMRU) 2015 er mwyn galw pob cais cynllunio'n
ymwneud â datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol i
mewn. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys drilio arbrofol am nwy
siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar hyn o bryd mae'r Cyfarwyddyd yn ymwneud â
cheisiadau sy'n cynnwys dulliau echdynnu anghonfensiynol penodol yn
unig ac mae'r Awdurdodau Cynllunio Lleol yn tueddu i
ganiatáu'r cais.
Nid yw'r Cyfarwyddyd presennol yn berthnasol i nwyeiddio glo tanddaearol er y gall effeithiau'r broses hon fod yr un mor niweidiol i'r amgylchedd a chymunedau. Nid yw ychwaith yn berthnasol i ddrilio arbrofol neu ddrilio prawf. Mae pryderon cynyddol ynghylch effaith drilio arbrofol, yn enwedig o safbwynt sŵn, traffig, y posibilrwydd o darfu ar gyrsiau dŵr ac o greu symudiadau seismig, creu safleoedd diwydiannol yng nghefn gwlad a'r effaith ar brisiau tai.
Os oes moratoriwm ar echdynnu, yna beth yw pwrpas
archwilio? Os yw gwaith echdynnu wedi'i wahardd, mae'n annerbyniol
ac afresymol caniatáu i waith archwilio fynd rhagddo.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
|